Lleoliad:
Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 24 Tachwedd 2015
Amser: 08.30 -
08.50
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
David Melding (Cadeirydd) Paul Davies Jane Hutt Elin Jones Aled Roberts |
Staff y Pwyllgor: |
Siân Wilkins (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Craig Stephenson, Cyfarwyddwr Dros Dro Gwasanaethau’r Comisiwn Peter Greening, Llywodraeth Cymru Christopher Warner, Pennaeth Gwasanaeth y Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth |
Cafwyd ymddiheuriadau gan y Llywydd.
Nododd y Pwyllgor y cofnodion i’w cyhoeddi.
Cafodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth am y newidiadau i Fusnes y Llywodraeth ddydd Mawrth.
Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio ddydd Mawrth ar ôl yr eitem olaf o fusnes. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y cynhelir y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer ddydd Mercher.
Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.
Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn y busnes a chytunodd i amserlennu’r eitemau a ganlyn:
Dydd Mercher 9 Rhagfyr 2015 -
· Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
Dydd Mercher 13 Ionawr 2016 -
· Bil Cymru drafft (180 munud)
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ail-amserlennu’r eitem ganlynol o fusnes:
Dydd Mercher 9 Rhagfyr 2015 –
·
Amser a
neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud) – i'w aildrefnu ar gyfer 27 Ionawr
2016
Dewisodd y Pwyllgor Busnes y ddau gynnig a gyflwynwyd ar gyfer y ddadl.
Dydd Mercher 2 Rhagfyr 2015
o
NNDM5881
David Rees (Aberafan)
Mike Hedges (Dwyrain Abertawe)
Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd cynhyrchu dur i economi Cymru.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) barhau i wneud popeth o fewn ei gallu i gefnogi'r diwydiant dur yn ystod y cyfnod anodd hwn; a
b) chymryd camau brys ar nifer o feysydd, gan gynnwys mynd i'r
afael â'r costau ynni uchel a wynebir gan y diwydiannau ynni
dwys yng Nghymru, megis y diwydiant dur, er mwyn sicrhau y gallant
gystadlu yn erbyn cynhyrchwyr Ewropeaidd eraill o fewn marchnad
fyd-eang.
Dydd Mercher 9 Rhagfyr 2015
o NNDM5885
Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru)
Suzy Davies (Gorllewin De Cymru)
Eluned Parrott (Canol De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod gwerth y celfyddydau a chreadigrwydd i addysg a datblygiad ein pobl ifanc, gan ddarparu profiad cyfoethog yn eu rhinwedd eu hunain, ond gan hefyd helpu i wella gallu plant i ganolbwyntio, gan ysgogi eu dychymyg a'u creadigrwydd, adeiladu hyder, codi dyheadau a rhoi gwell dealltwriaeth o bobl eraill iddynt a gwell empathi ar gyfer pobl eraill;
2. Yn nodi
â phryder bod cyfyngiadau ar gyllidebau awdurdodau lleol dros
y degawd diwethaf wedi rhoi pwysau cynyddol ar wasanaethau
cerddorol anstatudol;
3. Yn nodi
casgliad y grŵp gorchwyl a gorffen ar wasanaethau cerddoriaeth
yng Nghymru fod yr heriau allweddol sy'n wynebu gwasanaethau
cerddoriaeth yng Nghymru yn cynnwys yr anghyfartalwch yn y
ddarpariaeth bresennol a'r anghydraddoldeb o ran cyfleoedd i gael
mynediad at wasanaethau; ac
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth genedlaethol ar addysg gerddorol fel bod pob plentyn yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn amrywiaeth o brofiadau cerddorol, i leihau rhwystrau ariannol i gael mynediad at y gwasanaethau hyn ac i sicrhau bod gwasanaethau o ansawdd uchel yn cael eu cynnal er gwaethaf gostyngiadau mewn cyllidebau awdurdodau lleol ac ysgolion.
Ystyriodd y Rheolwyr Busnes bapur yn nodi'r opsiynau posibl ar gyfer craffu ar Fil Cymru drafft yn y Cyfarfod Llawn. Penderfynodd y Rheolwyr Busnes gyflwyno dadl 3 awr yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 13 Ionawr a dychwelyd at y mater eto yr wythnos nesaf i benderfynu ar strwythur y ddadl.
Trafododd y Pwyllgor Busnes bapur gan y Llywodraeth ynghylch Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol mewn perthynas â Bil Cymru.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol i'r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd er mwyn iddo graffu arno. Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd y dylai’r Pwyllgor gyflwyno adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol erbyn dydd Iau 21 Ionawr 2016 er mwyn i’r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol gael ei drafod yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 26 Ionawr 2016.
Rhoddodd y Pwyllgor Busnes ystyriaeth bellach i'r cais gan Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i ymestyn ei derfyn amser adrodd ar gyfer Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) o ddydd Gwener 27 Tachwedd 2015 i 11 Rhagfyr 2015. Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ddychwelyd at y mater yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ddydd Mercher pe bai angen mwy o amser ar y pwyllgor.